Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'r fframwaith hwn yn ffordd bwysig o annog mwy o amrywiaeth o fewn y diwydiant ac mae’r camau canlynol yn cael eu cymryd i hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant:

  • Monitro data'n barhaus i nodi unrhyw faterion ac ymyrryd lle bo angen
  • Hyrwyddo'r diwydiant i gynulleidfa amrywiol drwy ein gwefan gyrfaoedd Gyrfaoedd blasus www.tastycareers.org.uk a Llysgenhadon Gyrfaoedd Blasus
  • Gweithdai prentisiaeth i godi ymwybyddiaeth o fanteision Prentisiaethau i gyflogwyr

Rhaid i'r holl bartneriaid sy'n ymwneud â darparu prentisiaethau, gan gynnwys darparwyr hyfforddiant, canolfannau a chyflogwyr, ymrwymo i bolisi cyfle cyfartal a rhaid iddynt gael polisïau a gweithdrefnau cydraddoldeb ac amrywiaeth cadarn.

Rhaid i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant, a dilyniant ynddo, gan ddefnyddio naw nodwedd warchodedig:

  • Oedran
  • Anabledd
  • Rhyw
  • Ailbennu rhywedd
  • Priodas a phartneriaeth sifil
  • Beichiogrwydd a mamolaeth
  • Hil
  • Crefydd neu gred
  • Cyfeiriadedd rhywiol

Mae mynediad i'r Fframwaith hwn yn agored i bob dysgwr sy'n bodloni'r amodau mynediad ac nid yw'n rhwystr i fynediad a dilyniant.

Ceir canllawiau pellach i'ch helpu i ddeall a defnyddio Deddf Cydraddoldeb 2010 yma: www.equalityhumanrights.com

  1. Ydych chi'n cytuno â chynnwys yr adran hon?

Ydw

Nac ydw

Os nac ydych, rhowch sylwadau.