Mynediad i'r llwybr prentisiaeth Pobydd
Mae enghreifftiau'n cynnwys:
- Llwybrau academaidd (e.e. TGAU, Bagloriaeth Cymru)
- Trwy gwblhau cymwysterau galwedigaethol
- Cymryd rhan mewn lleoliad cyflogwyr
- Profiad gwaith
- Hyfforddiant
Efallai y bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru wedi cwblhau unedau neu gyrsiau byr a fydd yn darparu gwybodaeth sylfaenol tuag at y Brentisiaeth. Caiff hyn ei asesu yn ystod asesiad cychwynnol sy'n caniatáu Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) lle bo hynny'n briodol.
Mae cyfleoedd dilyniant i'r Brentisiaeth hefyd yn bodoli i'r rhai sydd â phrofiad yn y sector neu'r rhai sy'n dymuno newid gyrfa.
Llwybrau dilyniant o'r llwybr prentisiaeth Pobydd
Mae enghreifftiau'n cynnwys:
- Ar gyfer swydd, er enghraifft, fel pobydd cyfanwerthu, manwerthu neu mewn siop neu deisennwr
- Dilyniant gyrfa uniongyrchol i brentisiaeth Lefel 3 Pobydd neu lwybr arall sy'n addas i rôl a chynlluniau gyrfa'r prentis
- Datblygu'n rôl wahanol ar yr un lefel neu'n uwch
- Bagloriaeth Cymru Lefel 3
12. Ydych chi'n cytuno â'r llwybrau mynediad a dilyniant ar gyfer prentisiaeth Pobydd?