Llwybr Lefel 2 Cig a Dofednod

Mae llwybr Lefel 2 Cig a Dofednod ar gyfer y rhai sy'n gweithio mewn rolau prosesu a gweithgynhyrchu, neu gefnogi gwerthiant/gwasanaeth, mewn sefydliad cig a dofednod.

Mae'r Grŵp Llywio sy'n gyfrifol am arwain yr adolygiad o'r Brentisiaeth hon wedi argymell y dylid datblygu manyleb cymhwyster prentisiaeth newydd sbon i gyflawni'r gofynion technegol ar gyfer galwedigaethau Cig a Dofednod yn L2.

I grynhoi, bydd y fanyleb yn ei gwneud yn ofynnol i gyfranogwyr gyflawni unedau cymhwyster sy'n sicrhau o leiaf 14 o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol presennol neu unedau gwybodaeth sylfaenol fel a ganlyn:

  • 4 o Grŵp Gorfodol A
  • O leiaf 4 o Grŵp B Diwydiant Cig a Dofednod
  • O leiaf 4 uned wybodaeth sylfaenol o Grŵp D
  • Gellir cymryd gweddill yr unedau o Grwpiau Dewisol B, C neu D

Bydd y cwestiynau a'r tudalennau canlynol yn mynd â chi drwy'r gofynion hyn a gofynion eraill yn fanylach.

Nodwch: dim ond yn Saesneg y cyflwynir teitlau a chynnwys yr unedau sy'n gysylltiedig â nhw gan mai dim ond yn yr iaith honno y maen nhw ar gael.

Grŵp Gorfodol A

Teitl
Maintain workplace food safety standards in food and drink operations 
Work safely in food manufacture
Principles of HACCP based food safety systems
Use knives in food and drink operations
  1. Ydych chi'n hapus gyda'r unedau gorfodol arfaethedig yng Ngrŵp A?

Ydw

Nac ydw

Os nac ydych, eglurwch.