Llwybr Lefel 2 Llaeth
Mae’r llwybr Lefel 2 Llaeth ar gyfer y rhai sy’n gweithio ym maes prosesu a gweithgynhyrchu, neu gynorthwyo gyda gwerthiant/gwasanaeth yn y diwydiant llaeth neu gynnyrch yn seiliedig ar laeth.
Mae'r Grŵp Llywio sy'n gyfrifol am arwain ar yr adolygiad o'r Llwybr hwn wedi argymell rhoi'r gorau i'r prentisiaethau sy’n benodol ar gyfer llaeth a bod y rhai sy'n gweithio yn yr is-sector bwyd a diod hwn yn defnyddio llwybr Lefel 2 Gweithredwr Prosesu Bwyd a Diod.
- Ydych chi’n cytuno nad oes angen llwybr prentisiaeth llaeth-benodol yng Nghymru ac y gallai'r rhai sy'n gweithio yn y sector hwn ddefnyddio llwybr prentisiaeth Gweithredwyr Prosesu Bwyd a Diod?
I grynhoi, bydd y fanyleb yn ei gwneud yn ofynnol i gyfranogwyr gyflawni unedau cymhwyster sy'n sicrhau o leiaf 14 o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol presennol neu unedau gwybodaeth sylfaenol fel a ganlyn:
- 3 o Grŵp Gorfodol A
- Mae’n rhaid cwblhau o leiaf 4 uned o Grŵp B Cynhyrchu a Phrosesu
- O leiaf 3 uned wybodaeth sylfaenol o Grŵp D
- Gellir cymryd gweddill yr unedau o Grwpiau Dewisol B, C neu D
Bydd y cwestiynau a'r tudalennau canlynol yn mynd â chi drwy'r gofynion hyn a gofynion eraill yn fanylach.
Nodwch: dim ond yn Saesneg y cyflwynir teitlau a chynnwys yr unedau sy'n gysylltiedig â nhw gan mai dim ond yn yr iaith honno y maen nhw ar gael.
Grŵp Gorfodol A
Teitl |
Maintain workplace food safety standards in food and drink operations |
Work safely in food manufacture |
Principles of HACCP based food safety systems |
2. Ydych chi'n hapus gyda'r unedau gorfodol arfaethedig yng Ngrŵp A?