Llwybr Lefel 3 Pysgod a Physgod Cregyn

Mae’r llwybr Lefel 3 Pysgod a Physgod Cregyn ar gyfer y rhai sy’n gweithio ym maes gweithrediadau prosesu pysgod a physgod cregyn fel rheolwyr a goruchwylwyr, gwerthwyr pysgod a gwerthwyr pysgod cynorthwyol neu mewn swyddi sy’n cefnogi gwerthiant/gwasanaeth a swyddi technegol mewn sefydliad sy’n prosesu pysgod a physgod cregyn. Mae hefyd yn addas ar gyfer goruchwylwyr neu reolwyr siopau pysgod a sglodion. 

Mae'r Grŵp Llywio sy'n gyfrifol am arwain yr adolygiad o'r Brentisiaeth hon wedi argymell y dylid datblygu manyleb cymhwyster prentisiaeth newydd sbon i gyflawni'r gofynion technegol ar gyfer galwedigaethau Pysgod a Physgod Cregyn ar Lefel 3.

Er mwyn ennill y cymhwyster prentisiaeth, dylid cymryd unedau sy’n werth o leiaf 37 credyd o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol presennol neu unedau gwybodaeth sylfaenol.  O'r 37 credyd yma, rhaid cymryd rhai unedau o grwpiau A, B a D:

  • Bydd 10% neu fwy o'r cymhwyster prentisiaeth yn cynnwys unedau o Grŵp A
  • Bydd 25% neu fwy o'r cymhwyster prentisiaeth yn cynnwys unedau o Grŵp B Diwydiant Pysgod a Physgod Cregyn
  • Bydd 10% neu fwy o'r cymhwyster prentisiaeth yn cynnwys unedau o Grŵp D Gwybodaeth Sylfaenol
  • Gellir cymryd y 55% sy'n weddill o unedau sydd ar gael naill ai yng Ngrŵp A, B, C neu D – byddai angen tua 5 uned arall i gyrraedd y nifer angenrheidiol o gredydau ar gyfer y cymhwyster prentisiaeth

Nodwch: brasamcanion yw'r canrannau hyn gan fod y gwerthoedd credyd yn cael eu hadolygu gan y Sefydliad Dyfarnu ac efallai y bydd angen mireinio'r strwythur ymhellach. Mae’r canrannau hyn yn cyfeirio ar y cymhwyster prentisiaeth credyd 37 safonol.

Rydym yn amcangyfrif y bydd y 37 credyd ar gyfer y cymhwyster fel arfer yn cael ei gyflawni drwy gwblhau 10-12 uned, er y gallai hyn amrywio o brentis i brentis.

Bydd y cwestiynau a'r tudalennau canlynol yn mynd â chi drwy'r gofynion hyn a gofynion eraill yn fanylach.

Grŵp A

Dylid cymryd o leiaf un uned o'r grŵp hwn. Dylai hyn fod yn ddigon ar gyfer 10% o’r cyfanswm sy’n angenrheidiol ar gyfer y cymhwyster prentisiaeth.

Teitl
Monitor fish or shellfish operations
Manage fish and shellfish operations
Provide leadership in your area of responsibility of a food and drink business
  1. Ydych chi'n hapus gyda'r unedau gorfodol arfaethedig yng Ngrŵp A?

Ydw

Nac ydw

Os nac ydych, eglurwch.