Mynediad i'r llwybr prentisiaeth Pysgod a Physgod Cregyn
Mae enghreifftiau'n cynnwys:
- Llwybrau academaidd (e.e. TGAU, Bagloriaeth Cymru)
- Trwy gwblhau cymwysterau galwedigaethol
- Cymryd rhan mewn lleoliad cyflogwyr
- Y Brentisiaeth Sylfaen mewn Bwyd a Diod (unrhyw lwybr)
- Dilyniant gyrfa uniongyrchol o'r Brentisiaeth Sylfaen mewn Pysgod a Physgod Cregyn
Efallai y bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru wedi cwblhau unedau neu gyrsiau byr a fydd yn darparu gwybodaeth sylfaenol tuag at y Brentisiaeth. Caiff hyn ei asesu yn ystod asesiad cychwynnol sy'n caniatáu Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) lle bo hynny'n briodol.
Mae cyfleoedd dilyniant i'r Brentisiaeth hefyd yn bodoli i'r rhai sydd â phrofiad yn y sector neu'r rhai sy'n dymuno newid gyrfa.
Llwybrau dilyniant o'r llwybr prentisiaeth Pysgod a Physgod Cregyn
Mae enghreifftiau'n cynnwys:
- Ar gyfer swydd, er enghraifft, fel gwerthwr pysgod, pysgod cregyn neu reolwr ffrïo pysgod
- Ar y llwybr Prentisiaeth Uwch (lefel 4) mewn Bwyd a Diod (Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu Bwyd)
- I addysg bellach neu uwch
- Dilyniant gyrfa e.e. i rôl uwch, neu rôl arbenigol ar yr un lefel
Mae llawer o opsiynau gyrfa ar gael i'r prentis ar ôl cwblhau'r fframwaith yn llwyddiannus.
-
Ydych chi'n cytuno â'r llwybrau mynediad a dilyniant ar gyfer y brentisiaeth Pysgod a Physgod Cregyn?