Llwybr Lefel 2 Pysgod a Physgod Cregyn
Mae'r llwybr Lefel 2 Pysgod a Physgod Cregyn ar gyfer y rhai sy'n gweithio ym maes gweithrediadau prosesu pysgod a physgod cregyn, neu fel gwerthwyr pysgod, neu mewn siopau pysgod a sglodion.
Mae'r Grŵp Llywio sy'n gyfrifol am arwain yr adolygiad o'r Brentisiaeth hon wedi argymell y dylid datblygu manyleb cymhwyster prentisiaeth newydd sbon i gyflawni'r gofynion technegol ar gyfer galwedigaethau Pysgod a Physgod Cregyn yn Lefel 2.
Er mwyn ennill y cymhwyster prentisiaeth, dylid cymryd unedau sy’n werth o leiaf 37 credyd o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol presennol neu unedau gwybodaeth sylfaenol. O'r 37 credyd yma, rhaid cymryd rhai unedau o grwpiau A, B a D:
- Rhaid gwneud yr uned HACCP ac un uned arall o Grŵp A. Bydd hyn yn cyfri am tua 10% o'r cymhwyster prentisiaeth.
- Bydd 25% neu fwy o'r cymhwyster prentisiaeth yn cynnwys unedau o Grŵp B Diwydiant Pysgod a Physgod Cregyn
- Bydd 10% neu fwy o'r cymhwyster prentisiaeth yn cynnwys unedau o Grŵp D Gwybodaeth Sylfaenol
- Gellir cymryd y 55% sy'n weddill o unedau sydd ar gael naill ai yng Ngrŵp A, B, C neu D – byddai angen tua 5 uned arall i gyrraedd y nifer angenrheidiol o gredydau ar gyfer y cymhwyster prentisiaeth
Nodwch: brasamcanion yw'r canrannau hyn gan fod y gwerthoedd credyd yn cael eu hadolygu gan y Sefydliad Dyfarnu ac efallai y bydd angen mireinio'r strwythur ymhellach. Mae’r canrannau hyn yn cyfeirio ar y cymhwyster prentisiaeth credyd 37 safonol.
Rydym yn amcangyfrif y bydd y 37 credyd ar gyfer y cymhwyster fel arfer yn cael ei gyflawni drwy gwblhau 10-12 uned, er y gallai hyn amrywio o brentis i brentis.
Bydd y cwestiynau a'r tudalennau canlynol yn mynd â chi drwy'r gofynion hyn a gofynion eraill yn fanylach.
Nodwch: dim ond yn Saesneg y cyflwynir teitlau a chynnwys yr unedau sy'n gysylltiedig â nhw gan mai dim ond yn yr iaith honno y maen nhw ar gael.
Grŵp A
Mae Egwyddorion HACCP ac un o'r 2 uned arall yn orfodol. Dylai hyn fod yn ddigon ar gyfer 10% o’r cyfanswm sy’n angenrheidiol ar gyfer y cymhwyster prentisiaeth.
Teitl |
Maintain workplace food safety standards in food and drink operations |
Work safely in food manufacture |
Principles of HACCP based food safety systems |
- Ydych chi'n hapus gyda'r unedau gorfodol arfaethedig yng Ngrŵp A?