Llwybr Lefel 3 Pobydd

Mae'r llwybr Lefel 3 Pobydd ar gyfer y rhai sy'n gweithio mewn rolau uwch gyda chig a dofednod - naill ai gyda chymhlethdod technegol neu gyda rhai cyfrifoldebau lefel goruchwylio - mewn prosesu a gweithgynhyrchu, neu gefnogaeth gwerthiant/gwasanaeth mewn sefydliad cig a dofednod.

Mae'r Grŵp Llywio sy'n gyfrifol am arwain yr adolygiad o'r Brentisiaeth hon wedi argymell y dylid datblygu manyleb cymhwyster prentisiaeth newydd sbon i gyflawni'r gofynion technegol ar gyfer galwedigaethau Pobydd ar Lefel 3.

I grynhoi, bydd y fanyleb yn ei gwneud yn ofynnol i gyfranogwyr gyflawni unedau cymhwyster sy'n darparu o leiaf 12 o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol presennol neu unedau gwybodaeth sylfaenol fel a ganlyn:

  • 2 o Grŵp Dewisol A
  • 4 o Grŵp B Sector Pobydd
  • 3 uned wybodaeth sylfaenol o Grŵp D
  • Ac o leiaf 3 arall o Grwpiau Dewisol A, B, C neu D

Bydd y cwestiynau a'r tudalennau canlynol yn mynd â chi drwy'r gofynion hyn a gofynion eraill yn fanylach.

Grŵp Dewisol A

Teitl
Monitor food safety at critical control points in food and drink operations
Monitor health, safety and environmental management systems in food manufacture
Monitor and maintain product quality in food and drink operations
The Principles of HACCP for Food Manufacturing
  1. Ydych chi'n hapus gyda'r unedau dewisol arfaethedig a'r nifer y mae'n ofynnol eu cymryd o leiaf yng Ngrŵp A?

Ydw

Nac ydw

Os nac ydych, eglurwch.