Llwybr Lefel 3 Cynnyrch Ffres
Mae'r llwybr Lefel 3 cynnyrch ffres ar gyfer y rhai sy'n gweithio mewn rolau uwch gyda chig a dofednod - naill ai gyda chymhlethdod technegol neu gyda rhai cyfrifoldebau lefel goruchwylio - mewn prosesu a gweithgynhyrchu, neu gefnogaeth gwerthiant/gwasanaeth mewn sefydliad cynnyrch ffres.
Mae'r Grŵp Llywio sy'n gyfrifol am arwain ar yr adolygiad o'r Llwybr hwn wedi argymell rhoi'r gorau i'r prentisiaethau sy’n benodol ar gyfer cynnyrch ffres a bod y rhai sy'n gweithio yn yr is-sector bwyd a diod hwn yn defnyddio llwybr Gweithredwr Technegol.
1. Ydych chi’n cytuno nad oes angen llwybr prentisiaeth llaeth-benodol yng Nghymru ac y gallai'r rhai sy'n gweithio yn y sector hwn ddefnyddio llwybr prentisiaeth Gweithredwr Technegol Bwyd a Diod?
I grynhoi, bydd y fanyleb yn ei gwneud yn ofynnol i gyfranogwyr gyflawni unedau cymhwyster sy'n darparu o leiaf 12 o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol presennol neu unedau gwybodaeth sylfaenol fel a ganlyn:
- 3 o Grŵp A Gorfodol
- O leiaf 4 o'r Grŵp B Cynhyrchu a Phrosesu
- O leiaf 3 uned wybodaeth sylfaenol o Grŵp D
- Gellir cymryd gweddill yr unedau o Grwpiau Dewisol B, C neu D
Bydd y cwestiynau a'r tudalennau canlynol yn mynd â chi drwy'r gofynion hyn a gofynion eraill yn fanylach.
Grŵp Gorfodol A
2. Ydych chi'n hapus gyda'r unedau gorfodol arfaethedig yng Ngrŵp A?