Llwybr Lefel 2 Cynnyrch Ffres

Mae llwybr Lefel 2 Cynnyrch Ffres ar gyfer y rhai sy'n gweithio mewn rolau prosesu a gweithgynhyrchu, neu gefnogi gwerthiant/gwasanaeth, mewn sefydliad cynnyrch ffres.

Mae'r Grŵp Llywio sy'n gyfrifol am arwain ar yr adolygiad o'r Llwybr hwn wedi argymell rhoi'r gorau i'r prentisiaethau sy’n benodol ar gyfer Cynnyrch Ffres a bod y rhai sy'n gweithio yn yr is-sector bwyd a diod hwn yn defnyddio llwybr Lefel 2 Gweithredwr Prosesau Diodydd.

  1. Ydych chi’n cytuno nad oes angen llwybr prentisiaeth penodol ar gyfer Cynnyrch Ffres yng Nghymru ac y gallai'r rhai sy'n gweithio yn y sector hwn ddefnyddio llwybr prentisiaeth Gweithredwr Prosesau Bwyd a Diod?

Ydw

Nac ydw

Os nac ydych, eglurwch.

I grynhoi, bydd y fanyleb yn ei gwneud yn ofynnol i gyfranogwyr gyflawni unedau cymhwyster sy'n sicrhau o leiaf 14 o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol presennol neu unedau gwybodaeth sylfaenol fel a ganlyn:

  • 3 o Grŵp Gorfodol A
  • O leiaf 4 o Grŵp B Cynhyrchu a Phrosesu
  • O leiaf 3 uned wybodaeth sylfaenol o Grŵp D
  • Gellir cymryd gweddill yr unedau o Grwpiau Dewisol B, C neu D

Bydd y cwestiynau a'r tudalennau canlynol yn mynd â chi drwy'r gofynion hyn a gofynion eraill yn fanylach.

Nodwch: dim ond yn Saesneg y cyflwynir teitlau a chynnwys yr unedau sy'n gysylltiedig â nhw gan mai dim ond yn yr iaith honno y maen nhw ar gael.

Grŵp Gorfodol A

Teitl
Maintain workplace food safety standards in food and drink operations 
Work safely in food manufacture
Principles of HACCP based food safety systems

2. Ydych chi'n hapus gyda'r unedau gorfodol arfaethedig yng Ngrŵp A?

Ydw

Nac ydw

Os nac ydych, eglurwch.