Mynediad i'r llwybr prentisiaeth Cig a Dofednod

Mae enghreifftiau'n cynnwys:

  • Llwybrau academaidd (e.e. TGAU, Bagloriaeth Cymru)
  • Trwy gwblhau cymwysterau galwedigaethol
  • Cymryd rhan mewn lleoliad cyflogwyr
  • Y Brentisiaeth Sylfaen mewn Bwyd a Diod (unrhyw lwybr)
  • Dilyniant gyrfa uniongyrchol o'r Brentisiaeth Sylfaen mewn Cig a Dofednod

Efallai y bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru wedi cwblhau unedau neu gyrsiau byr a fydd yn darparu gwybodaeth sylfaenol tuag at y Brentisiaeth. Caiff hyn ei asesu yn ystod asesiad cychwynnol sy'n caniatáu Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) lle bo hynny'n briodol.

Mae cyfleoedd dilyniant i'r Brentisiaeth hefyd yn bodoli i'r rhai sydd â phrofiad yn y sector neu'r rhai sy'n dymuno newid gyrfa.

Llwybrau dilyniant o'r llwybr prentisiaeth Cig a Dofednod

Mae enghreifftiau'n cynnwys:

  • Ar gyfer swydd, er enghraifft, fel cigydd arbenigol neu reolwr gweithrediadau arbenigol (cig a dofednod)
  • Ar y llwybr Prentisiaeth Uwch (lefel 4) mewn Bwyd a Diod (Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu Bwyd)
  • I addysg bellach neu uwch
  • Dilyniant gyrfa e.e. i rôl uwch, neu rôl arbenigol ar yr un lefel

Mae llawer o opsiynau gyrfa ar gael i'r prentis ar ôl cwblhau'r fframwaith yn llwyddiannus. 

  1. Ydych chi'n cytuno â'r llwybrau mynediad a dilyniant ar gyfer y brentisiaeth Cig a Dofednod?

Ydw

Nac ydw

Os nac ydych, rhowch sylwadau.

 

  1. A ddylid cael unrhyw Ofynion ychwanegol eraill o ran y Cyflogwr?

Dylid

    Na ddylid

Os dylid, rhowch sylwadau.

 

  1. Nid yw Hawliau a Chyfrifoldebau Gweithwyr (ERR) yn ofyniad gorfodol ar gyfer Prentisiaethau yng Nghymru mwyach.

    Ydych chi'n meddwl y dylai fod yn ofynnol i brentisiaid sy'n dilyn y Llwybr hwn gwblhau ERR?

Dylai

Na ddylai

Os felly, rhowch sylwadau.